Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1, Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 2 Chwefror 2023
Amser:
08.47 -
12.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13202
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Jenny Rathbone AS (yn lle Carolyn Thomas AS) |
Tystion: |
Ieuan Evans, Undeb Rygbi Cymru Nigel Walker, Undeb Rygbi Cymru Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip Jason Thomas, Llywodraeth Cymru Steffan Roberts, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Manon Huws (Cynghorydd Cyfreithiol) Craig Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Nia Moss (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol y Bil Diogelwch Ar-lein (Rhif 3 a Rhif 4): Trafod yr adroddiad drafft
1.1 Gwnaeth y Pwyllgor drafod yr adroddiad drafft a chytuno arno.
2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Trafod yr adroddiad drafft
2.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried a derbyn gwelliannau y tu allan i gyfarfod y Pwyllgor.
3 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
3.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Carolyn Thomas AS, a dirprwyodd Jenny Rathbone AS ar ei rhan.
4 Honiadau’n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru: Sesiwn dystiolaeth gydag Undeb Rygbi Cymru
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Undeb Rygbi Cymru.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i ofyn am wybodaeth ychwanegol yn ymwneud â'r sesiwn.
5 Honiadau’n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i ofyn am wybodaeth ychwanegol yn ymwneud â'r sesiwn.
6 Papurau i'w nodi
6.1 Nodwyd y papurau.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8 Ôl-drafodaeth breifat
8.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Chwaraeon Cymru i gyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol i drafod yr honiadau’n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru.
9 Dydd Gŵyl Dewi: Cynnig ymgysylltu
9.1 Gwnaeth y Pwyllgor drafod y cynnig a chytuno arno.